Grŵp Trawsbleidiol ar Saethu a Chadwraeth

 
 

 

 


Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2015

Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

[6.30PM]

 

 

Yn bresennol:

Angela Burns AC - Cadeirydd

Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

William Powell AC

Russell George AC

Mark Isherwood AC

Andrew RT Davies AC

 

Rob Holt - Croeso Cymru

David Chapman - Cymdeithas Lletygarwch Prydain

Gary Ashton, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC)

Derek Williams - Swyddog Gwledig BASC Cymru

 

Stuart Burns - Swyddfa Angela Burns

Rachel Evans- Y Gynghrair Cefn Gwlad

Ann Evans - Neuadd Betws

 

Siaradwyr Gwadd

Gwyn Evans - Neuadd Betws

Anthony Rosser - Gwesty Llyn Efyrnwy

Andrew Grainger - Grŵp Twristiaeth Chwaraeon Cefn Gwlad yr Alban

 

Ysgrifennydd:

Esther Wakeling BASC

 

Ymddiheuriadau

Lyndsey Whittle AC

 

 

 

Croeso

Estynnodd Angela Burns groeso i bawb i’r cyfarfod.

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol a’r datganiad ariannol i’r Grŵp ac fe’u cymeradwywyd.

 

Ethol swyddogion

Cadeirydd – Enwebwyd Angela Burns gan Rachel Evans, ac eiliwyd y cynnig gan Gary Ashton. Derbyniodd Angela Burns y swydd.

 

Ysgrifenyddiaeth - Enwebwyd Esther Wakeling (BASC) gan Stuart Burns ac eiliwyd y cynnig gan Rachel Evans. Derbyniodd Esther Wakeling y swydd.

 

 

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Dim

 

Roedd ffocws y cyfarfod ar ‘Saethu - Sut i roi hwb i incwm twristiaeth yng nghefn gwlad Cymru’

 

Siaradwyr Gwadd

 

Gwyn Evans - Neuadd Betws, ger y Drenewydd

Dywedodd Gwyn wrth y Grŵp am ei fagwraeth amaethyddol a’r llwybr a gymerodd i fynd i mewn i’r busnes saethu.  Etifeddodd fferm, ond oherwydd pwysau ariannol a’r posibilrwydd o gau’r busnes gan ei fanc cyn iddo fethu, arallgyfeiriodd o ffermio da byw i fagu adar hela er mwyn parhau mewn busnes.

 

Dechreuodd drwy fagu adar ar ei fferm ei hun, ac yna bu iddo rentu fferm gyfagos ar gyfer saethu, ac eglurodd sut y tyfodd y busnes dros amser i fod y busnes y mae yn awr.

 

Erbyn heddiw mae Neuadd Betws yn cyflogi 140 o staff cyfatebol amser llawn ac mae gan y fferm drosiant o £11.5m. Maent yn deor adar hela o’u stoc eu hunain ac yn cyflenwi ystadau saethu eraill, mae’r rhain yn ffermydd sy’n cael eu ffermio ar gontract gan ffermydd cyfagos nes bod y cywion yn 7 wythnos oed. Mae Neuadd Betws yn cefnogi 42 o ffermydd yn y ffordd hon drwy gyflenwi’r holl offer sydd ei angen arnynt.

 

Mae Neuadd Betws bellach yn berchen ar wyth o ystadau chwaraeon, ac mae chwech o’r rhain yng Nghymru.

 

Yn y flwyddyn 2000 roedd y busnes yn cael trafferth i gyflawni disgwyliadau ei westeion o ran llety o ansawdd uchel yn lleol, felly trawsnewidiwyd rhai o adeiladau allanol y fferm yn llety 5*, ac erbyn hyn mae pob agwedd ar y busnes o dan un ymbarél.

 

Yn 2003, prynwyd y Brigands Inn ym Mallwyd, ger Dolgellau, a’r hawliau saethu sy’n gysylltiedig â’r eiddo hefyd.

 

Mae busnes Neuadd Betws wedi’i anelu at y 0.5% o’r bobl gyfoethocaf. Mae llai na 2% o’r bobl sy’n saethu yn Neuadd Betws yn dod o Gymru. Mae oddeutu 30% yn ymwelwyr tramor ac mae’r gweddill yn dod o dde-ddwyrain Lloegr yn bennaf. Gwariant cyfartalog y bobl sy’n saethu yn Neuadd Betws yw £2,500 yr un bob dydd.

 

Disgrifiodd Mr Evans grŵp saethu arferol fel un sydd angen 15 o gurwyr, 8 o lwythwyr, 10 o gasglwyr, 2 aelod o staff saethu, 6 staff amser llawn yn y Brigands Inn, cogydd a 2 staff gweini. Eglurodd ymhellach, bron bob dydd yn ystod y tymor, roedd cyfartaledd o chwe thîm y dydd yn saethu, a bod yr holl bobl a gyflogir yn bobl leol, ac nid oedd ganddo ddim staff tramor.

 

Roedd Mr Evans yn amcangyfrif fod 600,000 o bobl yn y DU yn saethu a bod 2/3 o’r tir yn y DU â rhyw gysylltiad â saethu a chadwraeth, sydd o fudd i’r holl fywyd gwyllt, gan gynnwys adar cân. Roedd am i’r Grŵp wybod y gallai’r diwydiant yn ei gyfanrwydd gael ei werthfawrogi’n fwy na’r diwydiant defaid yn y DU.

 

Gofynnodd Mr Derek Williams i Mr Evans egluro ei fodel ar gyfer ei raglen fridio drwy ffynonellau allanol.

 

Eglurodd Mr Evans, fel yr oedd nifer yr adar a fagwyd yn Neuadd Betws yn cynyddu, daeth yn fwy anodd i reoli clefydau ac felly i reoli cyfraddau marwolaeth yr adar ifanc. Maent yn awr yn cynnig pris i ffermwyr lleol fagu pob aderyn ac mae pob fferm yn cadw nifer penodol o gywion. O ganlyniad, mae’r gyfradd goroesi yn awr yn 96.5%. Mae Neuadd Betws yn cyflenwi’r holl offer a’r holl adar ac mae’r ffermwyr contract yn cael bonws ychwanegol os ydynt yn cyflawni cyfradd goroesi o 90% neu’n uwch.

 

Aeth Mr Evans ymlaen i ddweud wrth y Grŵp am ei gyllideb farchnata a oedd yn 2% o’r trosiant ac roedd oddeutu £100,000 yn cael ei wario ar farchnata uniongyrchol bob blwyddyn.

 

Roedd Mr Evans am i’r Grŵp roi sylw arbennig i’r ffaith bod y rhan fwyaf o’i gleientiaid yn dod o dramor ac felly mae unrhyw arian y maent yn ei wario yn yr economi yn ‘arian newydd’ nad oedd wedi bod mewn cylchrediad yn economi’r DU yn flaenorol.

 

 

Anthony Rosser - Gwesty Llyn Efyrnwy

Ystâd Llyn Efyrnwy yw un o’r ystadau saethu hynaf yng Nghymru, gyda hanes o saethu grugieir, a ddaeth i ben sawl degawd yn ôl. Mae gan y stad 24,000 erw o dir saethu a 11,000 erw o dir pysgota. Mae’r Gwesty 4 seren, sydd wedi ennill gwobr twristiaeth aur Croeso Cymru, a Rhosglwm yr AA ar gyfer ei fwyty, yn cyflogi 83 o bobl.

 

Mae hanner yr holl gyflenwadau a brynir gan y Gwesty yn dod o ffynonellau lleol, sy’n rhoi mantais o oddeutu £240,000 i fusnesau lleol.

 

Dywedodd Mr Rosser, fel yr unig gyflogwr o bwys yn yr ardal, ei fod yn teimlo cyfrifoldeb personol enfawr i’r gymuned a dywedodd: "Mae cyfrifoldeb enfawr arnom, o fod yn brif sbardun economaidd ar gyfer darn sylweddol o’r Gymru wledig; heb y gwesty, ni fyddai fawr ddim arall."

 

Eleni, bydd refeniw chwaraeon yr Ystâd a’r Gwesty yn cynhyrchu incwm sylweddol rhwng canol mis Hydref a diwedd mis Ionawr, a phwysleisiodd Mr Rosser wrth y Grŵp fod saethu yn hanfodol bwysig ar gyfer cynnal ei fusnes y tu allan i’r tymor twristiaeth. Heb incwm chwaraeon ychwanegol a ddaw i’r gwesty yn sgîl y saethu tu allan i’r tymor gwyliau arferol, ni fyddai modd cadw’r holl staff mewn cyflogaeth drwy gydol y flwyddyn. Disgrifiodd y gamp o saethu fel un o gonglfeini ei fusnes, sy’n sylfaenol i’w oroesiad.

 

Fodd bynnag, mae’r manteision o fod ar agor drwy’r flwyddyn yn ymestyn y tu hwnt i gadw staff mewn cyflogaeth lawn-amser, mae’n golygu hefyd y gall y gweithwyr fod ag arian i’w wario yn yr economi leol drwy gydol y flwyddyn hefyd. Roedd hefyd yn rhoi’r Gwesty mewn safle cryf mewn perthynas â marchnata ar gyfer y tymor ymwelwyr traddodiadol. 

 

Andrew Grainger - Grŵp Twristiaeth Chwaraeon Cefn Gwlad yr Alban

 

Dywedodd Mr Grainger wrth y Grŵp mai ef oedd y Cydlynydd Prosiect, a dechreuodd ei anerchiad drwy amlinellu gwaith y grŵp, a sefydlwyd yn 2004 gan ddenu cyllid gan y llywodraeth i ddechrau. Mae bwrdd presennol y Grŵp yn cynnwys:

·         Visit Scotland

·         Cymdeithas o grwpiau Rheoli Ceirw

·         Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain

·         Scottish Enterprise

·         Cymdeithas Ciperiaid yr Alban

·         Tir ac Ystadau yr Alban

·         Scottish Natural Heritage

·         Ymddiriedolaeth Afonydd a Physgodfeydd yr Alban.

Grŵp Twristiaeth Chwaraeon Cefn Gwlad yr Alban yw un o’r partneriaethau cyhoeddus/preifat mwyaf llwyddiannus ac sy’n rhedeg ers y mwyaf o amser yn yr Alban.

 

Yn yr Alban mae 40% o’r wlad yn ucheldir, yn gartref i geirw a nifer fawr o adar hela. Mae llawer o afonydd eogiaid a llynnoedd dŵr croyw. Mae miliynau o adar gaeafu, adar dŵr mudol a rhydwyr. Er bod llawer o’r rhywogaethau chwarel â thymor ‘agored’ a thymor ‘caëedig’ er mwyn rheoli’r adnodd naturiol a’r amgylchedd, mae’n bosibl cymryd rhan mewn chwaraeon cefn gwlad ar 365 diwrnod y flwyddyn.

 

Mae chwaraeon cefn gwlad yn cyfrannu mwy at yr economi yn yr Alban nag y mae gwylio bywyd gwyllt, beicio, gweithgareddau antur, chwaraeon dŵr, chwaraeon eira na marchogaeth. Mae chwaraeon cefn gwlad i gyfrif am oddeutu 10% o’r gwariant ar dwristiaeth natur yn yr Alban.

 

Cyflwynodd Mr Grainger rai ffeithiau diddorol iawn am dwristiaeth chwaraeon cefn gwlad:

·         Mae’n werth £155 miliwn i economi’r Alban bob blwyddyn;

·         Mae 270,000 o deithiau a 910,000 o nosweithiau ymwelwyr yn deillio o dwristiaeth chwaraeon cefn gwlad yn flynyddol;

·         Mae 60% o dwristiaid chwaraeon cefn gwlad yr Alban yn byw yn Lloegr;

·         Mae ymwelwyr chwaraeon cefn gwlad yn aros yn yr Alban 6 noson yn hwy na thwristiaid arferol;

·         Mae llawer o’r busnes twristiaeth hwn yn digwydd tuag at ddiwedd yr hydref ac yn y gaeaf pan fyddai gwestai a lletyau gwely a brecwast, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn dawel os nad yn wag.

 

O’r gwaith ymchwil a wnaed, mae Profiad yr Alban yn cael ei weld gan lawer o ymwelwyr fel un o’r atyniadau o gymryd rhan mewn chwaraeon gwledig yn yr Alban. Mae’r ymwelwyr yn gwerthfawrogi diwylliant a threftadaeth yr Alban a’r cyfle i ymweld â safleoedd ac atyniadau hanesyddol.

 

Eglurodd Mr Grainger mai pwrpas Grŵp Twristiaeth Chwaraeon Cefn Gwlad yr Alban yw hyrwyddo cyfranogiad mewn Twristiaeth Chwaraeon Cefn Gwlad yn yr Alban, a’i ddatblygu.

 

Caiff Twristiaeth Chwaraeon Cefn Gwlad yr Alban ei hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae dilyniant o dros 5.5 miliwn o bobl gan ‘Shoot in Scotland’, sef cylchgrawn blynyddol a gyhoeddir. Mae’r Grŵp hefyd yn dosbarthu e-gylchlythyr chwarterol i 3,500 o danysgrifwyr, yn cynhyrchu cylchlythyr blynyddol ac yn mynd i ffeiriau chwaraeon cefn gwlad, cyfarfodydd a seminarau a drefnir gan y diwydiant.

 

Mae gwefan benodol: www.countrysportscotland.com  yn cefnogi’r Grŵp ac yn cael 8,500 o bobl yn ymweld yn benodol â’r wefan bob mis. Mae’r wefan yn cysylltu cwsmeriaid posibl â darparwyr cyfleoedd i saethu, ag asiantau chwaraeon, yn rhoi gwybodaeth am lety sy’n croesawu pobl chwaraeon cefn gwlad, a chanllawiau ar bysgota yn ogystal â chyflenwyr dillad ac offer.

 

Er mwyn helpu i ddatblygu twristiaeth chwaraeon cefn gwlad yn yr Alban mae’r Grŵp yn trefnu cyfarfodydd B2B, ac yn trefnu a chynnal Cyrsiau Rhagoriaeth mewn Gofal Cwsmer Chwaraeon Cefn Gwlad.

 

Mae Grŵp Twristiaeth yr Alban yn gweithredu gydag oddeutu £50,000 y flwyddyn, gyda staff o ychydig dros un person cyfatebol llawn amser. Mae 50% o’r cyllid hwn yn dod o gyfraniadau preifat a’r hanner arall yn dod o danysgrifiadau i’r wefan.

 

 

Cwestiynau

William Powell - Pa mor dda y mae’r sector addysg yn yr Alban yn eich gwasanaethu?

Andrew Grainger  - Rydym ni’n gwasanaethu o ran hyfforddiant, rydym yn cynnig hyfforddiant ar wasanaethau i gwsmeriaid, ond mae asiantaethau eraill hefyd yn cymryd rhan. Rydym wedi darganfod bod gwasanaeth cwsmeriaid da yn allweddol. Mae cyrsiau Ghillie and Keeper ar gael mewn colegau amrywiol yn yr Alban.

 

Gwyn Evans  - Rydym yn cyflogi chwe aelod o staff yn uniongyrchol o addysg uwch bob blwyddyn, sef pedwar o Goleg Harper Adams a dau o Goleg Cirencester.

 

Anthony Rosser  - Mae gennym un prentis yn y gwesty, sy’n treulio hanner ei amser ar yr ochr saethu a’r hanner arall ar ddyletswyddau yn y gwesty.

 

Ken Skates - Beth arall y mae ymwelwyr yn ei wneud tra maent yn yr Alban?

Andrew Grainger  - Mae ein gwaith ymchwil wedi dangos eu bod yn cymryd rhan mewn golff yn bennaf, ac yn ymweld â safleoedd treftadaeth.

 

Ken Skates - Beth am rasio ceffylau? A yw’n ymddangos bod y gamp honno’n bwysig i’ch ymwelwyr?

 Andrew Grainger  - Nid yw ein profiad ni’n dangos hynny..

 

Andrew RT Davies - Mae angen gwella sgiliau ein gweithlu. Beth ydych chi wedi’i wneud i helpu pobl ifanc sy’n dechrau yn y maes?

Andrew Grainger  - Nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb am hynny, ond mae anghenion addysg gofal cwsmeriaid wedi’u hanwybyddu yn y gorffennol, ac rydym yn darparu hyfforddiant i newid hynny.

 

Andrew RT Davies - A yw’r Cynllun Datblygu Gwledig wedi’i ddefnyddio i helpu’n ariannol?

Andrew Grainger  - Mae ‘Skills Development Scotland’ yn ariannu  50% o gostau darparu’r cwrs.

 

Gwyn Evans  - Rydym wedi edrych ar yr opsiynau sydd ar gael i ni, ac wedi penderfynu edrych ar ddatblygu ysgoloriaeth yng Ngholeg Cirencester. O ran datblygu staff, rydym yn bennaf yn hyrwyddo dyrchafiadau mewnol, ac wedi canfod, drwy ddatblygu pobl drwy’r ysgol gyflogaeth, maent yn teimlo rhywfaint o berchnogaeth a chyfrifoldeb dros y cwmni. Mae gennym weithlu ifanc.

 

Pan fyddwn yn  hyrwyddo Neuadd Betws, byddwn yn defnyddio dull gweithredu byd eang i ddosbarthu ein llyfryn, ac nid oes cystadleuaeth o gwbl rhwng canolfannau saethu ledled y byd. Byddwn yn cynorthwyo ein gilydd. Mae Gwyn o’r farn bod angen i ni ganolbwyntio ar y farchnad ryngwladol.

 

Ken Skates – A fyddwch chi’n gweithio gydag asiantaethau, dyweder, yn yr Unol Daleithiau?

Gwyn Evans  - Nac ydym, ond rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Iseldiroedd ac mae’r Iseldiroedd newydd werthu tri phâr o ynnau gwerth £600,000. Mae arian rhyngwladol a gaiff ei wario yng Nghymru yn arian newydd ar gyfer yr economi.

 

Yn yr haf, byddwn yn defnyddio ein bythynnod ciperiaid fel llety gwyliau a chânt eu defnyddio yn y gaeaf gan staff y Ddeorfa.

 

Russell George – Mae gennyf ddiddordeb i wybod am y budd ariannol i’r economi yn ehangach.

Gwyn Evans  - Mae 3000 o bobl yn dod i’r ardal, ac nid yw pob o’r rhain yn aros gyda ni yn Neuadd Betws. Maent yn aros ac yn gwario mewn mannau eraill yn yr ardal. Heb saethu, byddai tafarn y Brigands Inn wedi cael ei bordio.

 

Angela Burns - Beth y mae BASC yn gofyn amdano?

Gary Ashton  - Rydym yn edrych ar dair stori wahanol. Mae gan yr Alban ddull gweithredu mwy cydlynol, a gallem hefyd roi enghreifftiau o ddarparwyr llai i chi. Mae cyfle yma i weithio’n agosach gyda Chroeso Cymru, yn enwedig o gofio bod y flwyddyn nesaf wedi’i dynodi yn ‘Flwyddyn Antur’. Hoffem gysylltu busnesau fel gwestyau a bwytai â chanolfannau saethu, a gwneud rhagor o waith marchnata dramor, ac ar yr un pryd, byddai’n beth da i gysylltu gweithgareddau twristiaeth eraill gyda saethu.

 

Gwyn Evans  - Mae angen i ni symud pobl o’r canolfannau poblogaeth mawr a’u denu i Gymru. Felly yn y pen draw, mae’n ymwneud â marchnata. Efallai nad oes gennym fand eang ond mae gennym gefn gwlad anhygoel! Mae angen integreiddio saethu yn llawn i bob agwedd ar dwristiaeth yng Nghymru.

 

David Chapman  - Mae Cymdeithas Lletygarwch Prydain yn gwneud rhywfaint o ymchwil. Nid yw gwestyau yn fusnes ynysig. Maent, wrth gwrs, yn rhan o’r gadwyn gyflenwi.

 

Unrhyw Fater Arall

Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

 

 

Clowyd y cyfarfod gan Angela, a diolchodd i bawb am fod yn bresennol. Dymunodd Nadolig Llawen i bawb.